Wel bellach awn yn mlaen
Wel f'enaid dos ymlaen (Heb ofni dŵr a thân)
Wel f'enaid dos yn mlaen

("Cyrchu at y nod.")
Wel, bellach awn yn mlaen,
Nac ofnwn ddwr na thân,
    ni bia'r dydd;
Ein Brenin cadarn cry',
Yn mlaenaf un o'r llu,
Yn tori rhwystrau sy,
    mae'r ffordd yn rhydd.

O'r diwedd daeth yr awr, 
Yn nhragwyddoldeb mawr,
    arfaethwyd Ef; 
Bu farw Brenin nen, 
O gariad ar y pren, 
Agorwyd led y pen,
    holl byrth y nef.

Mae heddyw yn y nef,
Fyrddiynau gydag ef,
    yn canu ei glod;
Dewch dringwn tua'r lan,
Cawn feddu yn y man,
Yr ardal ddaeth i'n rhan,
    hyfryda' 'rioed.

Ni gerddwn tua'r wlad,
Bwrcasodd ddwyfol waed,
    y mae gerllaw;
Fe ledia'r golofn dan,
Trwy foroedd maith ni 'mlaen,
Ac ni gawn seinio cân,
    yr ochr draw.

            - - - - -
(Goruchafiaeth trwy Grist)
1,2,3,4,5;  1,2,(6),7,8;  1,2,7.
Wel f'enaid dos yn mlaen,
Heb ofni dwr na than,
  Mae genyt Dduw;
'Dyw'r gelyn mwya' ei rym,
I'w allu anfeidrol ddim,
Fe goncra'm pechod llym,
  Ei elyn yw.

Mae gwaed ei groes yn fwy
Na'u natur danbaid hwy,
  Na'u nifer maith,
Fe faddeu fawr a mân,
Fe'm gylch yn hyfryd lân,
Fe'm dwg i yn y blaen,
  I ben fy nhaith.

Ac er nad wyf ond gwan,
Fel hyn mi safa' i'r lan,
  Heb haeddu dim:
Mae nerth dy fraich yn fwy,
Na'u holl fyddinoedd hwy,
Sy'n rhoddi i mi glwy',
  Er maint eu grym.

Fy meiau fan a mawr,
Sydd raid eu cael i lawr,
  Cyn byddo hir;
Fe fyn cyfreithiau'r ne',
I dynu'r llygad de',
A thori'r fraich o'i lle,
  Ei air sydd wir.

Ac yno mi af trwy,
Gystuddiau fwy na mwy,
  Ond fy iachâu;
Mi ddringa'r creigydd fry,
Mi nofia'r afon ddu,
Mi gonc'ra elynion lu
  Heb lwfrhau.

'D oes rhwystyr is y nef
Ag all ei atal Ef
  Wneud 'fo'n ei fryd;
Rhy wan yw uffern griw,
A'u dichell o bob rhyw
I wrthladd gallu'm Duw,
  Pe baent ynghyd.

O! Brynwr mawr y byd,
Tyrd bellach, mae'n iawn bryd,
  Mae yn brynhawn;
Gad imi weld dy ras
Ar frys yn torri i maes
Dros ŵyneb daear las,
  Yn genllif llawn.

Y geiriau oll i gyd
'Roist in o bryd i bryd
  Am ddydd dy ras;
Gad inni glywed llef
Efengyl gadarn, gref
O gwr i'r llall o'r nef
  Yn swnio 'maes.
dos yn mlaen :: dos ymlaen
I'w allu anfeidrol :: I'w nerth anfeidrol
goncra'm pechod :: goncra 'mhechod

William Williams 1717-91

Tonau [664.6664]:
Bethel (Ieuan Gwyllt 1822-77)
Dyffryn Clwyd / Dinbych (alaw Gymreig)
Llanddowror (alaw Gymreig)
Malvern (Henry J Gauntlett 1805-76)
Weston (Arthur E Dyer 1843- )

gwelir:
  Cryfach addewid Duw
  Gwnes addunedau fil
  O'r diwedd daeth yr awr
  Y geiriau oll i gyd

("Aiming at the mark.")
See, henceforth let us go forward,
Let us not fear water or fire,
    to us belongs the day;
Our firm, strong King,
As the foremost one of the host,
Who is breaking obstacles,
    the way is free.

At last came the hour,
In a great eternity,
    He was ordained;
The King of the sky died,
Of love on the tree,
Opened wide were
    all the portals of heaven.

Today in heaven,
He has myriads,
    singing his praise;
Come ye, let us climb upwards,
We shall get to possess soon,
The region which became our portion,
    the most delightful ever.

We will walk towards the land,
Which his divine love purchased,
    it is at hand;
The pillar of fire spreads,
Through vast seas before us,
And we will get to sound a song,
    on the far side.

                 - - - - -
(Supremacy through Christ)
 
See, my soul, go forward,
Without fear of fire or water,
    God is with Thee;
The enemy of greatest force,
Is nothing to his infinite power,
He will conquer my sharp sin,
    its enemy he is.

The blood of the cross is greater
Than their fiery nature,
    than their vast number,
He forgives great and small,
He will surround me delightfully completely,
He will lead me forward,
    to my destination.

And although I am only weak,
Thus I shall stand up,
    without deserving anything:
The strength of thy arm is greater,
Than all their armies,
Which are giving me a wound,
    despite the extent of their force.

My faults small and great,
Are needing to be got down,
    before long;
The law of heaven demands,
To pull out the right eye,
And break the arm from its place,
    his word is true.

And there I will go through,
Afflictions greater than greater,
    but heal me:
I shall climb the rocks above,
I shall swim the black river,
I shall conquer an enemy host
    without losing heart.

O great Redeemer of the world,
Come henceforth, it is high time,
  It is late;
Let me see thy grace
Hurriedly breaking out
Across the face of the blue-green earth,
  As a full torrent.
tr. 2015,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~